Hysbysiad Preifatrwydd Littlepay
Diweddarwyd ddiwethaf: 01.05. 2025

Hysbysiad Preifatrwydd
Gwybodaeth Bwysig a Phwy Ydym Ni
Mae’r Littlepay Group sy’n cynnwys Littlepay Limited a’i gysylltwyr (“Littlepay”, “ni”) yn parchu eich preifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn eich hysbysu am sut rydym yn ymdrin â’ch data personol pan fyddwch yn defnyddio ein llwyfannau a gwasanaethau (gyda’i gilydd, y “Gwasanaethau”) a phan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.
Cyhoeddir yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar ran y Littlepay Group, felly pan fyddwn yn defnyddio’r termau “Littlepay”, “ni” neu “ein”, rydym yn cyfeirio at y cwmni perthnasol yn y Littlepay Group sy’n gyfrifol am brosesu eich data, a fydd yn dibynnu ar eich lleoliad a’r gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Littlepay.
Mae Littlepay wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol yn ddigonol ni waeth ymhle fydd yn cael ei brosesu ac ni waeth be fo’ch lleoliad.
Mae Littlepay yn rheolydd data mewn perthynas â’ch data personol at ddibenion y cyfreithiau diogelu data perthnasol, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE (“GDPR yr UE”) a deddfwriaeth weithredu genedlaethol, GDPR y DU (GDPR yr UE fel y’i troswyd i gyfreithiau’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd y Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Rydym ni’n gyfrifol am sicrhau sin bod yn defnyddio’ch data yn unol â chyfraith diogelu data.
Littlepay fel Prosesydd Data
Gallai Littlepay brosesu data personol sy’n ymwneud â’i ddefnyddwyr terfynol, teithwyr, a dalwyr cardiau ar ran ein masnachwyr, ein partneriaid, a chwsmeriaid eraill (y “Cwsmeriaid”) wrth ddarparu gwasanaethau prosesu taliadau. Pan fyddwn yn prosesu data personol i’r diben hwn, rydym yn gwneud felly fel “prosesydd data” o dan GDPR yr UE a / neu GDPR y DU (fel bo’n berthnasol). Rydym wedi ymrwymo i sicrhau caiff unrhyw ddata personol a brosesir gennym fel prosesydd data ei brosesu yn unol â’r cyfreithiau diogelu data perthnasol.
Am fwy o wybodaeth am sut yr ymdrinnir â’ch data personol mewn perthynas â’r gwasanaethau hyn. Cyfeiriwch at yr wybodaeth gyfrinachedd a ddarperir gan y Cwsmer perthnasol.
Pa Ddata Personol Rydym Yn Ei Gasglu?
Ystyr data personol neu wybodaeth bersonol yw unrhyw wybodaeth am unigolyn sy’n gallu adnabod yr unigolyn hwnnw, un ai’n uniongyrchiol neu’n anuniongyrchol.
Ein Gwefan
Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, efallai gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo’r data canlynol:
- Gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni wrth ddefnyddio ein gwefan. Gallwn ofyn i chi roi eich manylion personol mewn cysylltiad â’ch defnydd o’n gwefan. Gall hyn gynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a manylion eich cwmni.
- Briwsion a thechnolegau awtomatig eraill. Gallwn ddefnyddio briwsion a thechnolegau eraill, i gasglu gwybodaeth mae’ch porwr yn ei hanfon atom pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys protocol y rhyngrwyd eich cyfrifiadur, y math o borwr, fersiwn y porwr, y wlad o le rydych chi wedi ymweld â’n gwefan, sut rydych wedi cyrraedd ar ein gwefan, hyd eich ymweliad a pha dudalennau rydych chi wedi eu gweld. Cyfeiriwch at ein Polisi briwsion am wybodaeth bellach am sut rydym yn defnyddio briwsion a thechnolegau tebyg.
Marchnata
Pan fyddwn yn marchnata ein Gwasanaethau, gallwn gasglu data hunaniaeth a chyswllt o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus.
Ein Gwasanaethau
Pan fyddwch yn defnyddio ein Gwasanaethau, efallai gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo’r data personol canlynol:
- Gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni. Gallwn gasglu data personol yn uniongyrchol gennych chi, fel y gosodwyd isod:
- Data personol wedi ei gasglu o ddefnyddwyr y Blwch tywod. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu data personol i ni er mwyn rhoi mynediad i chi i’n Blwch tywod. Os ydych yn gofyn i ddefnyddio’r Blwch tywod, byddwn yn casglu, defnyddio, storio a phrosesu data personol megis eich enw llawn, eich cyfeiriad e-bost, a’ch gwefan.
- Data personol wedi ei gasglu o’n masnachwyr. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu ni â data personol pan fyddwch yn ceisio dod yn ein masnachwr. Efallai byddwn angen i chi roi gwybodaeth bersonol ychwanegol tra byddwch yn defnyddio ein Gwasanaethau. Os ydych yn fasnachwr yn ceisio defnyddio ein Gwasanaethau, byddwn yn casglu, storio a phrosesu data personol sy’n gysylltiedig â chi ac unigolion eraill sy’n gysylltiedig â chi, megis enw llawn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, prawf o gyfeiriad, llungopi o gerdyn adnabod personol neu basbort a gwybodaeth arall fel y bo angen i’ch cynnwys ac ateb y gofynion cyfreithiol perthnasol.
Wrth sicrhau ein gwefan a Gwasanaethau, gallwn gasglu manylion am eich dyfais, eich trafodyn, protocol y rhyngrwyd eich cyfrifiadur a gwybodaeth dechnegol arall, trwy ein darparwyr diogelwch data a mur cadarn.
Pan fydd angen cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol, gallwn ddilysu’ch gwybodaeth a chasglu gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, asiantaethau gwirio credyd neu atal twyll neu wirio data yn erbyn rhestrau sancsiynau llywodraethol, un ai’n uniongyrchol, neu drwy ddefnyddio darparwyr gwasanaeth hunaniaeth neu ddiwydrwydd dyladwy a sgrinio darparwyr gwybodaeth.
Sut rydym ni’n defnyddio’ch data personol?
Gall eich data personol gael ei storio a brosesu gennym yn y ffyrdd canlynol ac at y dibenion canlynol:
- I reoli risg a diogelu’r wefan, y Gwasanaethau a chi rhag twyll, camddefnydd a gweithgareddau anghyfreithlon, trwy fonitro, canfod ac atal gweithgareddau o’r fath.
- I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau ac i orfodi telerau ein gwefan a’n Gwasanaethau, gan gynnwys cydymffurfio â phob cyfraith a rheoliad perthnasol.
- I brosesu taliad, cyfathrebu â thrydydd partïon mewn perthynas â thaliad, a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid cysylltiedig.
- I fonitro gweithgareddau anghyfreithlon ac atal risgiau diogelwch gwybodaeth cysylltiedig â’n gwefan a’n Gwasanaethau.
- I werthuso’ch cais i ddefnyddio ein Gwasanaethau a dilysu’ch hunaniaeth at ddibenion cydymffurfio.
- I ymateb i ymholiadau, anfon hysbysiadau gwasanaeth a darparu cymorth i gwsmeriaid.
- Ar gyfer archwiliadau, dibenion rheoleiddio, a chydymffurfio â safonau’r diwydiant.
- I’ch hysbysu o newidiadau yn natur neu yn nhelerau ein Gwasanaeth.
- I weinyddu ein gwefan, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, a dibenion ystadegol ac arolygol.
- I wella ein gwefan er mwyn sicrhau bod y cynnwys wedi ei gyflwyno yn y dull mwyaf effeithiol.
- I ddilysu’ch mynediad at eich cyfrif.
- I wella neu addasu ein Gwasanaethau.
- I ddatblygu cynhyrchion newydd.
- I anfon cyfathrebiadau marchnata.
- I gynnal dadansoddiad cyfanredol a gwella gwybodaeth fusnes sy’n ein galluogi i weithredu, diogelu, gwneud penderfyniadau gwybodus, ac adrodd ar berfformiad ein busnes.
Seiliau Cyfreithiol I Brosesu’ch Data Personol
Mae’r seiliau cyfreithiol sy’n berthnasol mewn perthynas â’n gweithgareddau prosesu data fel a ganlyn:
- I berfformio’r Gwasanaethau o dan y contract rydym ni ar fin neu wedi taro bargen â chi yn ei gylch.
- Pan fo angen i’n buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac nid yw eich buddiannau neu hawliau sylfaenol ddim yn diystyru’r buddiannau hynny, megis:
- i hwyluso ein perthynas â chi fel masnachwr posibl, newydd neu gyfredol;
- i brosesu a gyflawni eich trafodion, a phob gweithred arall sy’n gysylltiedig â thaliadau, gan gynnwys rheoli taliadau, ffioedd a chostau a chasglu ac adfer arian at ein dibenion busnes;
- i reoli ein perthynas â chi fel defnyddiwr ein gwefan neu Wasanaethau, sy’n cynnwys eich hysbysu o newidiadau i’n Gwasanaethau, telerau gwasanaethau neu’r hysbysiad preifatrwydd hwn;
- i wella ein gwefan, ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, ein marchnata, ein perthnasau â chwsmeriaid a phrofiadau;
- i weinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal y system, cefnogi, adrodd am a lletya data); ac
- i liniaru colled ariannol neu niwed arall i’n masnachwyr, i chi ac i ni.
- Lle bo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol, fel canfod ac atal twyll.
- Lle bo angen i ni sefydlu, gweithredu neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol neu at y diben o achos cyfreithiol.
- Lle rydym wedi cael eich cydsyniad i wneud hynny.
Gyda Phwy Rydym Ni’n Rhannu’ch Data Personol?
Gallwn rannu eich data personol â thrydydd partïon rydym yn ymddiried ynddynt at ddibenion darparu ein Gwasanaethau i chi a hyrwyddo ein busnes, fel a ganlyn:
- Cysylltwyr. Ein cysylltwyr o fewn y Littlepay Group er mwyn darparu ein Gwasanaethau i chi.
- Partneriaid busnes, darparwyr y diwydiant taliadau a chyfranogwyr i’ch trafodion. Gallwn rannu’ch data personol â’n masnachwyr a’u darparwyr gwasanaethau, cynlluniau cardiau, darparwyr dulliau talu a chaffaelwyr trydydd parti, fel y bo angen i brosesu taliadau neu ddarparu ein Gwasanaethau. Mae’r wybodaeth a rennir yn cynnwys:
- data personol sydd ei angen i hwyluso’r trafodyn a gweithgareddau’n gysylltiedig â’ch trafodyn;
- data personol i helpu ein partneriaid ddatrys anghydfodau a chanfod ac atal twyll; a
- data personol a dadansoddeg o berfformiad i helpu ein masnachwyr ddeall y defnyddiau o’u llwyfan yn well ac i helpu ein masnachwyr wella profiadau eu cwsmeriaid.
- Darparwyr gwasanaeth trydydd parti.
- Gallwn ddefnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti yn gweithredu ar ein rhan. Mae’r darparwyr gwasanaeth hyn yn ein helpu gyda gwasanaethau data a’r cwmwl, lletya’r wefan, dadansoddi data, gwasanaethau ymgeisio, rhwydweithiau hysbysebu, technoleg gwybodaeth ac isadeiledd cysylltiedig, gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu a chanfod.
Trydydd partïon eraill. Gallwn rannu’ch data personol â thrydydd partïon pe baem yn gwerthu, prynu neu uno unrhyw fusnes neu asedau, gan gynnwys i’r darpar brynwr neu werthwr busnes neu asedau o’r fath.
Diogelwch, Dibenion Cyfreithiol a Gorfodi’r Gyfraith. Gallwn rannu’ch data personol â thrydydd partïon gan gynnwys yr heddlu a gorfodi’r gyfraith er mwyn canfod, atal neu fel arall ateb materion o dwyll, diogelwch neu dechnegol, neu i ddiogelu rhag niwed i hawliau, eiddo neu ddiogelwch Littlepay, ein defnyddwyr, ein cwsmeriaid, ein cyflogeion neu’r cyhoedd neu fel arall sy’n ofynnol gan y gyfraith.
Mae’n ofynnol ar bob un o’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ac endidau eraill yn y grŵp i brosesu’r data personol yn unol â’r rheoliadau diogelu data perthnasol ac i gymryd camau diogelwch priodol i ddiogelu’ch gwybodaeth berson yn unol â’r rheoliadau diogelu data perthnasol ac ein polisïau.
Rydym yn mynnu bod trydydd partïon yn parchu diogelwch eich data ac yn ei drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu ein darparwyr gwasanaeth trydydd parti i ddefnyddio’ch data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn eu caniatáu i brosesu eich data personol ar gyfer dibenion penodedig ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.
Trosglwyddo data personol tu allan i’r Ardal Economaidd Ewrop (“AEE”) neu’r Deyrnas Unedig (“DU”)
Gallwn rannu’ch data personol ag aelodau’r Littlepay Group neu drydydd partïon sydd wedi eu lleoli tu allan i’r AEE neu’r DU. Gallwn rannu’ch data â phartneriaid, cyflenwyr neu is-broseswyr wedi eu lleoli mewn gwledydd tu allan i’r AEE neu’r DU.
Sicrhawn bydd unrhyw drosglwyddo o ddata personol tu allan i’r AEE neu’r DU (fel y bo’n briodol) yn ddarostyngedig i amddiffyniadau digonol, neu ei fod, fel arall, wedi ei ganiatáu o dan y gyfraith diogelu data berthnasol. Er enghraifft, gall y wlad neu’r awdurdodaeth lle trosglwyddir y data personol iddi gael ei chymeradwyo gan awdurdod diogelu data’r wlad neu’r awdurdodaeth honno fel un sy’n cynnig lefel ddigonol o ddiogelu i’ch data personol, neu gall fod y derbynnydd wedi cytuno i gymalau contractol model wedi eu cymeradwyo gan awdurdod diogelu data’r wlad neu’r awdurdodaeth sy’n eu gorfodi i ddiogelu’r data personol.
Cadw eich Gwybodaeth
Rydym yn cadw eich data personol mewn fformat adnabyddadwy am gyn lleied o amser sydd ei angen i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoleiddiol ac ein dibenion busnes. Gallwn gadw eich data personol am gyfnod hwyl le mae gofyniad cyfreithiol penodol i wneud, er enghraifft pe bai cwyn neu os ydym yn credu’n rhesymol bydd tebygrwydd o ymgyfreitha mewn cysylltiad â’n perthynas â chi.
Byddwn dim ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bo ei angen i gyflawni’r dibenion y casglwyd ef amdanynt, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifol, trethol, rheoleiddiol neu adroddol. Er mwyn pennu’r cyfnod priodol am gadw data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg o niwed posibl o ddefnydd neu ddatgelu anawdurdodedig eich data personol, y dibenion pam rydym yn prosesu’ch data personol ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Eich Hawliau
O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan gyfreithiau diogelu data (gan gynnwys GDPR yr UE a GDPR y DU, fel y bo’n berthnasol) mewn perthynas â’ch data personol. Yn dibynnu ar eich lleoliad, gall yr hawliau hyn gynnwys yr hawl i:
- gael gwybodaeth mewn perthynas â phrosesu’ch data personol a chyrchu eich data personol (sy’n cael ei adnabod fel “cais mynediad gwrthrych”);
- mewn rhai amgylchiadau, derbyn rhywfaint o ddata personol mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac yn ddarllenadwy gan beiriant a’r hawl i ofyn bod Littlepay yn trosglwyddo’r data hwnnw i drydydd parti lle bo hyn yn dechnolegol bosibl. Nodwch fod yr hawl hon ddim ond yn berthnasol i ddata personol rydych chi wedi ei roi i Littlepay;
- gofyn am gywiro’ch data personol os yw’n anghywir neu’n anghyflawn;
- gofyn am ddileu’ch data mewn rhai amgylchiadau. Nodwch fe all bod amgylchiadau lle byddwch yn gofyn i Littlepay i ddileu’ch data personol ond bydd gan Littlepay yr hawl gyfreithiol i’w gadw;
- gofyn bod Litttlepay yn cyfyngu ar, neu’r hawl i wrthwynebu i, brosesu’ch data personol mewn rhai amgylchiadau. Eto, gall fod amgylchiadau lle rydych yn gwrthwynebu i Littlepay, neu’n gofyn i Littlepay gyfyngu ar, brosesu’ch data personol ond mae gan Littlepay hawl gyfreithiol i barhau i brosesu’ch data personol neu wrthod y cais hwnnw;
- tynnu’ch cydsyniad i brosesu’ch data personol. Nodwch, fodd bynnag, efallai bod gennym o hyd yr hawl i brosesu’ch data personol os oes gennym reswm cyfreithiol arall (heblaw am gydsyniad) am wneud; a
- chyflwyno cwyn gerbron y rheoleiddiwr diogelu data (manylion isod) os ydych yn credu bod unrhyw un o’ch hawliau wedi ei thorri gan Littlepay.
Os na hoffech dderbyn cyfathrebiadau marchnata mwyach, defnyddiwch y manylion yn y cyfathrebiad ei hun i ddad-danysgrifio neu cysylltwch â ni yn legal@littlepay.com gyda’r llinell bwnc “Dad-danysgrifio.”
Os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau a osodwyd allan uchod neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ar unrhyw agwedd o’n hysbysiad preifatrwydd, cysylltwch â’n hadran gyfreithiol trwy e-bost yn legal@littlepay.com neu drwy’r post at: Littlepay Limited, Ridge Court, The Ridge, Epsom, KT18 7EP, DU.
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am eich hawliau drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y DU, neu drwy chwilio ei gwefan (https://ico.org.uk/).
Os ydych yn breswylydd yn yr AEE a chyda cwyn mewn perthynas â’n prosesu o ddata personol, gallwch gysylltu â Littlepay neu ei gynrychiolwr a apwyntiwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, VeraSafe, gan ddefnyddio’r ffurflen hon: https://verasafe.com/public-resources/contactdata-protection-representative neu dros y ffôn ar: +420 228 881 031. Fel arall, gellir cysylltu â VeraSafe yn: VeraSafe Ireland Ltd. Unit 3D North Point House North Point Business Park New Mallow Road Corc T23AT2P Iwerddon.
Hysbysiad Preifatrwydd Califfornia
Mae’r adran hon yn darparu manylion ychwanegol am yr wybodaeth bersonol (fel y diffinnir y term hwnnw yn Neddf Preifatrwydd Cwsmeriaid Califfornia (“CCPA”)) rydym yn ei chasglu am gwsmeriaid yng Nghaliffornia, yn ogystal â cheisiadau gall cwsmeriaid yng Nghaliffornia eu gwneud mewn perthynas â’u gwybodaeth bersonol.
Ceisiadau Am Eich Gwybodaeth Bersonol. Gall cwsmeriaid yng Nghaliffornia wneud y ceisiadau canlynol mewn perthynas â’u gwybodaeth bersonol:
- Cyrchu’r wybodaeth bersonol rydym yn ei ddal amdanoch. Gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol rydym wedi ei chasglu amdanoch chi.
- Dileu eich gwybodaeth bersonol. Yn amodol ar rai cyfyngiadau o dan y gyfraith berthnasol, gallwch ofyn ein bod yn dileu’r wybodaeth bersonol rydym wedi ei chasglu gennych chi.
- Anwahaniaethu. Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich gwahaniaethu yn eich erbyn am arfer unrhyw un o’ch hawliau o dan CCPA.
Fodd bynnag, gall casglu data trwy friwsion trydydd parti at ddibenion ein hysbysu wedi ei dargedu ei ystyried yn “werthiant” o dan y CCPA. Er nad ydym yn gwerthu gwybodaeth bersonol, rydym yn defnyddio briwsion trydydd partïon at ddibenion hysbysebu wedi ei dargedu. Os nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei rhannu â phartïon o’r fath, gallwch reoli’ch dewisiadau briwsion o dan y polisi briwsion.
Nid yw Littlepay yn rhannu (ac nid yw wedi rhannu yn y deuddeng mis diwethaf) eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon at ddibenion eu marchnata uniongyrchol eu hunain. Os ydych yn byw yng Nghaliffornia, mae gennych yr hawl i ofyn i ni (o dan gyfraith “Shine the Light” Califfornia), unwaith y flwyddyn, os ydym wedi rhannu gwybodaeth ag unrhyw drydydd partïon at ddibenion eu marchnata uniongyrchol.
Cyswllt. I gyflwyno cais i arfer unrhyw un o’ch hawliau uchod, gallwch gysylltu â’n Hadran Gyfreithiol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddwyd uchod. Nodwch byddwn angen gofyn rhywfaint o wybodaeth er mwyn dilysu eich hunaniaeth cyn ymateb i’ch cais.
Hysbysiadau ar gyfer Gwledydd Penodol
Hysbysiad yn ymwneud â’n gweithrediadau yn Awstralia
Darperir yr wybodaeth atodol hon ar gyfer unigolion a gesglir eu gwybodaeth neu a ddelir gan Littlepay Limited, Littlepay Pty Ltd, neu unrhyw un o’u cwmnïau cyswllt, ar adeg pan mae gan yr endid sy’n casglu neu’n dal ‘cysylltiad Awstralaidd’ oddi mewn i’r ystyr yn Neddf Preifatrwydd Awstralia 1988:
- Gallwch wneud cwyn amdanom ynglŷn â thorri Egwyddorion Preifatrwydd Awstralia trwy ddefnyddio manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, fel y gosodir allan uchod. Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn ymdrechu i ddatrys unrhyw fater i’ch boddhad. Os nad ydym yn ateb eich pryderon yn ddigonol, bydd gennych yr hawl i wneud cwyn yn ysgrifenedig i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Awstralia.
- Mae’n debygol y cesglir gwybodaeth bersonol amdanoch a’i ddal mewn gwledydd oddi mewn i’r AEE neu’r Deyrnas Unedig. Gall hefyd ei ddatgelu i unigolion mewn gwledydd eraill yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae’n bwysig bod y data personol rydym yn ei ddal arnoch yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod y diweddaraf i ni os yw’ch data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.
Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Caiff unrhyw newidiadau a wnawn eu postio ar y dudalen hon a, lle fo’n briodol, eu hysbysu i chi trwy e-bost. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd.